About
Byth Bythoedd Amen
gan/by Mared Jarman
"Ma bywyd yn brutal. Ond mae'n gallu bod yn biwtifful hefyd."
Pop glas, Jäger bombs a sgrolio Tinder.
Gweiddi chwil a karaoke yw curiad y ddinas.
Strydoedd yn llawn "livin' for the weekend"…
Mae Lottie ar noson allan sy'n wahanol i bob noson allan gynt. Wrth i'r noson hwyrhau a Lottie'n ymgolli yn ei hatgofion, mae'r ffin rhwng realaeth a dychymyg yn chwalu ac mae'n cychwyn ar daith o faddeuant, hunan-ddarganfod a dawnsio fel bod neb yn edrych!
Yn ddinesig, yn ddoniol ac yn dywyll, dyma ddrama newydd gan Mared Jarman am gariad, colled a bywyd fel pobl ifanc anabl mewn byd sy'n blaenoriaethu'r brif ffrwd. Bydd Mared – sy'n llais newydd a chyffrous i fyd y theatr Gymraeg - hefyd yn ymddangos fel Lottie, ochr yn ochr â'i chyd-actor Paul Davies, dan gyfarwyddyd Rhian Blythe.
---------------------
Blue pop, Jägar bombs and scrolling Tinder.
A city pulsing with drunken yelling and karaoke.
Streets filled with "livin' for the weekend"…
Lottie's on a night out like no other. As the hours pass and Lottie loses herself in her memories, the line between reality and imagination crumbles and she embarks on a journey of forgiveness, self-discovery and dancing like nobody's watching!
Urban and darkly comic, this new play by Mared Jarman explores love, loss and life as young disabled people in a world that prioritises the mainstream. An exciting new voice in Welsh-language theatre, Mared will also appear as Lottie, alongside co-star Paul Davies and directed by Rhian Blythe.
---------------------
Canllaw Oed / Age Guidance: 16+
Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed / Contains strong language and adult themes
Follow Us...
Facebook
Twitter
Instagram
Youtube