About
Huw Fyw Gan Tudur Owen
"Paid byth â trio dy ora, cofia hynna, ella neith o safio dy fywyd di."
Dyma stori gwir (wel, gwir-ish) am Huw – neu Huw Fyw fel mae pawb yn ei alw fo, ers i'r Huw arall yn y pentra' farw yn yr Ail Ryfel Byd.
Dydi Huw Fyw ddim yn coelio mewn ffawd. A dydi o ddim yn coelio mewn gwenu chwaith… na gwastraff nac unrhyw beth sy'n gofyn iddo godi o'i gadair. Ond ar ôl tro lwcus, mae Huw yn cychwyn ar antur fythgofiadwy o'i bentra' bach i ganol Llundain; antur fydd yn newid cyfeiriad ei fywyd am byth ac yn dysgu iddo sut i fyw at heddiw, heb anghofio'r gorffennol.
80 mlynedd ers i'r Ail Ryfel Byd ddod i ben, dyma ddrama lwyfan newydd gan Tudur Owen am obaith, diogi a sut mae 'neud 4 paned gydag un bag te! Yn ei ddrama gyntaf i'r llwyfan, bydd Tudur hefyd yn serennu fel Huw Fyw, gyda chyfarwyddo gan Steffan Donnelly. Cyhoeddiad cast ehangach i ddilyn.
Canllaw Oed: 12+
Yn cynnwys iaith gref, themâu aeddfed a chyfeiriadau at ryfel, euogrwydd goroesi ac Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).
---
This is the true story (well, true-ish) of Huw – or Huw Fyw as everyone calls him, since the other Huw in the village died in the Second World War.
Huw doesn't believe in fate. And he doesn't believe in smiling either or waste or anything that requires him to get up from his armchair. But after a stroke of luck, Huw embarks on an adventure from his little village to central London; an adventure that will change the course of his life forever and help him learn to live for today, without forgetting the past.
Marking 80 years since the end of the Second World War, this new play from comedian Tudur Owen explores hope, laziness and how to make 4 cuppas from just one teabag! In his first ever stage play, Tudur will also star as Huw Fyw, directed by Steffan Donnelly. Further cast announcement to follow.
Guidance :12+
Contains strong language, adult themes and references to war, survivor's guilt and PTSD.
Follow Us...
Facebook
Twitter
Instagram
Youtube